BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwisgo mygydau i ddod yn orfodol mewn siopau yng Nghymru

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi datgan y newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru gan gyhoeddi bydd gwisgo mygydau mewn siopau a mannau cyhoeddus caeedig yn dod yn orfodol yng Nghymru o ddydd Llun 14 Medi 2020, ond ni fyddent yn orfodol mewn gweithleoedd.

O ddydd Llun 14 Medi ymlaen bydd hi hefyd yn anghyfreithlon i fwy na chwech o bobl o aelwyd estynedig ymgynnull dan do yng Nghymru.

Ni fydd y rheol yn berthnasol i blant o dan 11 oed a gall hyd at 30 o bobl o wahanol gartrefi barhau i gyfarfod y tu allan.

Bydd y cyfyngiad newydd yn berthnasol mewn tafarndai a bwytai, yn ogystal â chartrefi preifat.

Gorchuddion wyneb: mae canllawiau i'r cyhoedd, i'w gweld yma.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.