BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwnewch gais i The Pitch 2022

Ydych chi eisiau datblygu eich busnes I'r lefel nesaf gyda buddsoddiad yn 2022? Wel, dyma’r gystadleuaeth i chi. 

Cyflwynwch eich busnes i fuddsoddwyr, enillwch wobrau gwerth £10,000, yn ogystal â phecyn mentora a hyfforddi.

Mae The Pitch yn cefnogi busnesau newydd ledled y DU, p'un a ydych newydd lansio neu'n paratoi i dyfu. Mae wedi'i gynllunio i roi hwb i'ch sgiliau, eich rhwydwaith a'ch hyder.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i fusnesau yn y DU sydd wedi bod yn masnachu ers llai na thair blynedd ac sy'n rhad ac am ddim i ymuno.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Gorffennaf 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://thepitch.uk/apply-for-the-pitch/ 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.