BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobr y Frenhines am Fenter 2020

Mae Gwobrau'r Frenhines am Fenter yn cael eu rhoi am gyflawniad rhagorol busnesau'r DU yn y categorïau hyn:

  • arloesi
  • masnach ryngwladol
  • datblygu cynaliadwy
  • hybu cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol

Beth fydd yn digwydd os bydd eich cwmni’n ennill

Os byddwch yn ennill, byddwch yn:

  • cael eich gwahodd i'r derbyniad Brenhinol
  • derbyn y wobr, a fydd yn cael ei chyflwyno gan un o gynrychiolwyr y Frenhines sy’n Arglwydd Raglaw, yn eich cwmni
  • cael hedfan baner Gwobrau'r Frenhines yn eich prif swyddfa a defnyddio'r arwyddlun ar eich deunydd marchnata (er enghraifft, ar eich deunydd pecynnu, eich hysbysebion, eich offer swyddfa a’ch gwefan)
  • cael Ardystiad (tystysgrif swyddogol) a gwobr goffa grisial

Mae’r gwobrau yn ddilys am 5 mlynedd.

Mae enillwyr wedi dweud eu bod wedi cael budd o’r wobr, fel cydnabyddiaeth fyd-eang, gwerth masnachol uwch, mwy o sylw yn y wasg a gwella morâl y staff.

Cyflwynwch eich cais erbyn hanner dydd ar 9 Medi 2020.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK website.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.