BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod

Awards

Enwebwch fusnesau neu gwmnïau ar gyfer Gwobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod 2024.

Dyma’r categorïau:

  • Defnydd o’r Gymraeg
  • Defnydd gweladwy o’r Gymraeg
  • Gwobr arbennig
  • Gwobr diolch lleol
  • Gwobr Croeso i’r ŵyl

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 8 Tachwedd, a chyhoeddir y rhestr fer ddydd Llun 18 Tachwedd, i nodi 100 diwrnod ers Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno mewn seremoni frecwast arbennig yn y Lido ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, lleoliad Maes yr Eisteddfod eleni, fore Iau 5 Rhagfyr.

I gael mwy o wybodaeth ac i enwebu busnes, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Enwebu Busnes 2024Nominate a Business 2024 - Menter Iaith RCT 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.