BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Busnes Prydain 2023

Mae SmallBusiness.co.uk yn falch iawn o gyhoeddi bod yr enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Busnes Prydain 2023!  

Mae'r gwobrau'n cydnabod, anrhydeddu a dathlu cyflawniadau eithriadol ac arloesol busnesau Prydeinig bach a chanolig ar draws pob diwydiant. 

Yn sgil y pandemig, mae busnesau bach Prydain wedi wynebu heriau newydd a digynsail. Dyna pam mae gwobrau eleni i gyd yn ymwneud â dathlu gwydnwch, creadigrwydd, a llwyddiant y busnesau hyn. 

Y categorïau eleni yw:

  • Busnes Pobl Dduon, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig y Flwyddyn
  • Benthyciwr Busnes y Flwyddyn
  • Entrepreneur y Flwyddyn
  • Menter Iechyd a Lles y Flwyddyn
  • Darparwr Yswiriant y Flwyddyn
  • Brocer Yswiriant y Flwyddyn
  • Menter Cynhwysiant y Flwyddyn
  • Syniad Busnes Mwyaf Arloesol y Flwyddyn
  • Micro Busnes y Flwyddyn
  • Entrepreneur y Genhedlaeth Nesaf y Flwyddyn
  • Busnes Manwerthu'r Flwyddyn
  • Ymgynghorydd Recriwtio'r Flwyddyn
  • Cwmni Cyfrifeg BBaCh y Flwyddyn
  • Asiantaeth Farchnata BBaCh y Flwyddyn
  • Busnes Newydd y Flwyddyn
  • Gwobr Busnes Cynaliadwy'r Flwyddyn
  • Busnes Bach y Flwyddyn
  • Darparwr Technoleg y Flwyddyn
  • Busnes dan Arweiniad Menywod y Flwyddyn

Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gael eich cydnabod a'ch dathlu am eich gwaith caled a'ch cyflawniadau.  

Bydd yr enwebiadau'n cau ar 26 Mai 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol  British Small Business Awards | Celebrating the leaders in the small business community


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.