BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Cyllid Cymru 2024

Group of People Applauding

Gan ddathlu gweithwyr cyllid proffesiynol Cymru, cynhelir y Gwobrau ar 17 Mai 2024 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Dyma'r categorïau:

  • Prif Swyddog Ariannol/Cyfarwyddwr Cyllid y Flwyddyn
  • Cyfarwyddwr Cyllid Ifanc y Flwyddyn
  • Rheolwr Ariannol/Rheolwr Cyllid y Flwyddyn
  • Cyfrifydd y Flwyddyn
  • Prentis Cyllid y Flwyddyn
  • Technegydd Cyfrifon y Flwyddyn
  • Seren y Dyfodol y Flwyddyn
  • Tîm Cyllid Bach (hyd at 10 aelod o staff o fewn tîm) y Flwyddyn
  • Tîm Cyllid Canolig/Mawr (mwy nag 11 aelod o staff yn y tîm)
  • Practis Cyfrifeg Annibynnol y Flwyddyn
  • Swyddog Cyflogres y Flwyddyn
  • Prosiect Cyllid y Flwyddyn
  • Tîm Sector Cyhoeddus y Flwyddyn
  • Gwobr Rhagoriaeth Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant (ESG)

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 9 Chwefror 2024.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i 2024 Awards | Finance Awards Wales 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.