BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Cynnyrch a Phecynnu Newydd The Grocer 2024

Food packaging design

Mae Gwobrau Cynnyrch a Phecynnu Newydd The Grocer yn ffordd wych o arddangos eich cynnyrch ac yn gyfle perffaith i ennill y gydnabyddiaeth yr ydych chi a'ch tîm yn ei haeddu.

Mae'r categorïau wedi'u rhannu'n gynnyrch bwyd a chynnyrch nad yw’n fwyd a rhaid cwrdd ag un o'r meini prawf canlynol:

  • Newydd i Farchnad y DU
  • Cynnyrch wedi'i ail-lunio
  • Cynnyrch sydd wedi'i ail-leoli, wedi'i dargedu at farchnadoedd newydd neu wedi'i ailbecynnu'n sylweddol
  • Ychwanegiad, amrywiad neu estyniad i fath o gynnyrch sydd eisoes ar gael.

Sylwch, dylai’r cynhyrchion gael eu datblygu a’u lansio rhwng 15 Mai 2023 ac 8 Tachwedd 2024.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 17 Mehefin 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais:  The Grocer New Product & Packaging Awards 2024 - Enter-Product Categories (thegrocernewproductawards.co.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.