BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau ICE Cymru 2024

ICE Wales Cymru Awards 2024

Mae Gwobrau’r Institution of Civil Engineers (ICE) Cymru ar gyfer 2024 bellach yn derbyn cynigion, gyda chategori Amrywiaeth newydd wedi’i gynnwys ochr yn ochr ag anrhydeddau traddodiadol.

Ynghyd â chategorïau traddodiadol sy’n cydnabod rhagoriaeth prosiectau, bydd y gwobrau eleni’n anrhydeddu unigolion neu sefydliadau sy’n hyrwyddo amrywiaeth trwy gydol cynllunio, dylunio a chyflawni prosiectau.

Categorïau’r Gwobrau:

  • Gwobr George Gibby (prosiectau dros £5 miliwn)
  • Gwobr Roy Edwards (prosiectau o dan £5 miliwn)
  • Gwobr Cynaliadwyedd Bill Ward
  • Gwobr Dyluniwyd yng Nghymru
  • Gwobr Alun Griffiths ar gyfer Ymgysylltu â’r Gymuned

Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 5pm dydd Llun, 29 Ebrill 2024.

Codir ffi o £300 ac eithrio TAW am gynnig i bob categori.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Wales Cymru Awards | Institution of Civil Engineers (ICE)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.