BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Merched sy’n Arloesi 2022/23: Digwyddiad Briffio

Bydd Gwobrau Merched sy’n Arloesi 2022/23 Innovate UK yn agor ar 22 Awst 2022. 

Dyfarnir hwb ariannol o £50,000 yr un i entrepreneuriaid benywaidd arloesol, yn ogystal â phecyn pwrpasol o gymorth busnes, hyfforddiant a mentora. 

Ymunwch â'r digwyddiad briffio i ddysgu mwy am gwmpas y gystadleuaeth hon, y broses ymgeisio, a'r cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr. Byddwch hefyd yn cael cyfle i glywed gan arweinwyr ysbrydoledig ym maes arloesi busnes a gan ddeiliaid blaenorol a phresennol gwobrau Merched sy’n Arloesi.

Os ydych chi'n sefydlydd, cyd-sefydlydd neu'n uwch wneuthurwr penderfyniadau benywaidd sy'n gweithio mewn cwmni yn y DU, ymunwch â'r weminar ar-lein ar 18 Awst 2022 i ddarganfod mwy! 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Women in Innovation Awards 2022/23 Briefing Event - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.