BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Merched sy’n Arloesi: Digwyddiad Briffio

Mae Innovate UK wedi cyhoeddi ton newydd o’r Gwobrau Merched sy’n Arloesi i ganfod a chefnogi’r arloeswyr benywaidd mwyaf addawol yn y DU i ddatblygu eu syniadau a mynd a’u busnesau o nerth i nerth.

Mae Innovate UK a’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth yn cynnal digwyddiad briffio a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am gwmpas y gystadleuaeth a’r broses ymgeisio, ynghyd â chynnig y cyfle i rwydweithio â Merched eraill sy’n Arloesi a chael y cyfle i drefnu cyfarfodydd 1:1 gydag Innovate UK a’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth.

Bydd pob enillydd yn derbyn grant £50,000 a phecyn pwrpasol o gymorth mentora, coetsio a busnes. Bydd y gwobrau yn para blwyddyn.

Os ydych chi’n ferch sydd wedi sefydlu, cydsefydlu, neu’n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch mewn cwmni yn y DU yna ymunwch â’r digwyddiad briffio ar 1 Medi 2020 i gael rhagor o wybodaeth.

Am ragor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein, cliciwch yma


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.