BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 – cofiwch wneud cais!

A ydych chi’n fusnes sydd â Rhaglen Brentisiaethau lwyddiannus? Os felly, cofiwch ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau 2021 cyn y dyddiad cau ar 13 Tachwedd  2020, 12pm.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n clodfori ac yn cydnabod cyfraniad rhagorol  busnesau i’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru. Mae pedwar categori o wobrau ar gyfer cyflogwyr:

  • Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1-49 o weithwyr)
  • Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 - 249 o weithwyr)
  • Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 - 4999 o weithwyr)
  • Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5000+ o weithwyr)

Gall busnesau hefyd annog a chefnogi’r prentisiaid hynny sydd, yn eu barn nhw, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’w busnes drwy eu henwebu ar gyfer un o’r pum gwobr i ddysgwyr:

  • Hyfforddeiaethau – Dysgwr y Flwyddyn (Ymgysylltu)
  • Hyfforddeiaethau - Dysgwr y Flwyddyn (Lefel 1)
  • Prentis Sylfaen y Flwyddyn
  • Prentis y Flwyddyn
  • Prentis Uwch y Flwyddyn
  • Doniau’r Dyfodol

Gallwch lenwi ffurflenni cais yma https://llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru/ymgeisiwch/prentisiaethau-cyflogwr

Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr ddosbarthu anfonwch e-bost i apprenticeshipawards@llyw.cymru

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.