BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau Siopau Fferm a Delis 2021

Gyda Gwobrau 2021 ar droed, bydd y sylw ar y manwerthwyr hynny sy’n haeddu eu cydnabod a datgelir y ‘Gorau yn y rhanbarth’.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r gwobrau wedi clywed cymaint o straeon hyfryd ynglŷn â sut mae’r manwerthwyr hyn wedi mynd yr ail filltir i helpu eu cwsmeriaid, staff, cyflenwyr a chymunedau yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae’r categorïau yn cynnwys:

  • pobydd
  • cigydd
  • gwerthwr caws
  • delicatessen
  • siop fferm
  • gwerthwr pysgod
  • neuadd fwyd
  • gwerthwr llysiau
  • siop bentref/leol annibynnol
  • busnes ar-lein

Sut mae cymryd rhan:

Os ydych chi’n ddefnyddiwr neu’n gyflenwr, cliciwch yma i gwblhau’r ffurflen enwebu ar gyfer eich hoff fanwerthwr(wyr) arbenigol o’r rhanbarthau a’r categorïau a ddangosir cyn 31 Hydref 2020.

Os ydych chi’n fanwerthwr arbenigol o un o’r categorïau a ddangosir, cliciwch yma i gwblhau ffurflen gystadlu gyflym a hawdd, lanlwythwch eich llun proffil, atebwch 2 gwestiwn a chyflwynwch eich cais cyn 31 Rhagfyr 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Farm Shop and Deli Awards.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.