BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwobrau’r Diwydiant Chwaraeon 2024 Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA)

child wheelchair user boxing with an instructor

Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau’r Diwydiant Chwaraeon 2024 Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) bellach ar agor.

Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn hyrwyddo mentrau a llwyddiannau’r WSA, ac ar yr un pryd yn cyfleu’r modelau a’r strategaethau arfer gorau sy’n helpu sector chwaraeon a hamdden Cymru i ddatblygu.

Gall sefydliadau enwebu ar gyfer wyth o gategorïau gwobrau:

  • Y Fenter Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau
  • Y Fenter Orau i Hyrwyddo Menywod mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
  • Gwobr yr Arloesiad Gorau
  • Yr Ymrwymiad Gorau i’r Gymraeg
  • Y Fenter Cynaliadwyedd Orau
  • Menter yr Effaith Gymdeithasol Orau
  • Y Fenter Gydweithredu Orau (Cyfranogiad, Nawdd neu Ymgysylltu ag Aelodau)
  • Yr Ymgyrch Fwyaf Dylanwadol

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 12 canol dydd, 18 Mawrth 2024.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Applications for WSA Sports Industry Awards 2024 now open - WSA 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.