BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwrthdroi TAW ar wasanaethau adeiladu

Bydd y mesurau gwrthdroi ar gyfer gwasanaethau adeiladu yn dod i rym ar 1 Mawrth 2021, er mwyn helpu'r sector adeiladu i ddelio ag effeithiau COVID-19; bydd hyn yn caniatáu mwy o amser i fusnesau baratoi.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gwmpas y tâl gwrthdroi a sut y bydd yn gweithredu ar wefan GOV.UK

Bydd Cyllid a Thollau EM yn cynnal cyfres o weminarau ar gyfer busnesau a gweminarau Talking Points ar gyfer asiantau.

Ar gyfer gweminarau busnes, cofrestrwch yma. Os nad oes dyddiadau ar gael, bydd recordiadau’r weminar ar gael ar-lein.

Os hoffech chi fynychu gweminar Agents Talking Points, ewch i GOV.UK.

Os ydych chi wedi cofrestru i wneud hynny, fe'ch hysbysir pan fydd y gweminarau hyn yn cael eu cynnal.

Mae mwy o wybodaeth am Gynllun y Diwydiant Adeiladu ar gael yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.