BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Haf o Hwyl gwerth £7m yn cychwyn yn swyddogol

Mae cynllun Haf o Hwyl gwerth £7 miliwn Llywodraeth Cymru yn dychwelyd am yr ail flwyddyn i gefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Gan adeiladu ar lwyddiant Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles y llynedd, bydd y cynllun yn cael ei gynnal rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2022 gan helpu plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliant a chwarae.

Bydd y gweithgareddau yn rhad ac am ddim ac yn gynhwysol i blant a phobl ifanc 0-25 oed, o bob cefndir a phob rhan o Gymru. Byddant yn cael eu cynnal yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.

Mae gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled Cymru i'w gweld ar wefannau awdurdodau lleol.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Haf o Hwyl gwerth £7m yn cychwyn yn swyddogol | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.