BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Helpwch eich busnes i ffynnu

small business owner, florist, using a laptop

Mae Enterprise Nation a VistaPrint wedi dod ynghyd i ddarparu grantiau arian parod gwerth £60,000 i gymuned busnesau bach y DU i'w helpu i wireddu eu huchelgeisiau.

Bydd ugain o fusnesau bach yn derbyn £3,000 yr un, yn ogystal â:

  • thanysgrifiad am ddim am 12 mis i VistaCreate Pro, meddalwedd dylunio graffig Vista
  • £500 mewn credydau i'w gwario ar wefan VistaPrint yn y DU
  • mynediad i 99designs gan Vista silver logo a phecyn canllaw brand (neu gyfwerth)

I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i'ch busnes:

  • fod wedi'i leoli yn y DU a bod gennych gyfrif banc busnes yn y DU
  • bod yn fusnes cofrestredig neu wedi'ch cofrestru fel hunangyflogedig gyda phrawf o Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
  • heb fod â mwy na 10 o weithwyr
  • wedi bod yn masnachu am o leiaf 3 mis
  • peidio â bod yn destun ansolfedd, archwiliaeth (examinership), derbynyddiad neu unrhyw broses gysylltiedig neu debyg, ac
  • os gofynnir am hyn, bod yn barod i rannu’r stori lwyddiant o sut y defnyddiodd ei grant arian parod (gall VistaPrint ddefnyddio a / neu gyhoeddi'r manylion hyn ymhellach at wahanol ddibenion megis marchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus)

Ceisiadau'n cau am 23:59 ar 31 Hydref 2024

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais:  Realising the Remarkable | Cash grants for small businesses | Enterprise Nation


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.