BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Her Ffotograff PopUp

Mae Her Ffotograff Haf y PopUp Business School ar gyfer unrhyw un sy’n rhedeg busnes, sy’n hunangyflogedig, neu sydd â syniad newydd ar gyfer busnes.

Cymerwch ran i gael cyfle i ennill taleb Amazon gwerth £200 neu un o’r talebau gwerth £50 i’r ail orau.

I roi cynnig arni, tynnwch un llun sy’n dangos rhan o’r hyn rydych chi’n ei wneud, neu am ei wneud, ar gyfer eich busnes yr haf hwn. Does dim ots os ydych chi’n creu,  pobi, glanhau neu goginio, trwsio ceir neu ddysgu Pilates, neu os oes ydych chi newydd ddechrau menter newydd law yn llaw â rhywbeth arall, mae’r gystadleuaeth hon ar eich cyfer chi. Tynnwch lun sy’n eich dangos chi a’ch busnes - gallwch chi fod yn rhan o’r llun a gallwch ddefnyddio props, felly gadewch i’ch dychymyg grwydro.

Lanlwythwych eich llun isod, neu rhowch e ar Twitter gyda’r hashnod #PopUpPix ynghyd â’r tag @popUPbusiness, erbyn 31 Awst 2020 am hanner nos.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan PopUp Business School.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.