BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Herio eich Heriau gydag AMRC Cymru: Gweithdai Arloesi Un-i-un

AMRC Cymru event

Ydych chi’n entrepreneur, yn fusnes bach neu’n ddyfeisiwr sydd â syniad arloesol am gynnyrch neu wasanaeth? Neu efallai eich bod yn fusnes bach a chanolig sy’n wynebu heriau o ran datblygu cynnyrch neu weithgynhyrchu?

Ymunwch â ni am sesiwn galw heibio un-i-un am ddim i gael arweiniad a chymorth arbenigol.

Bydd AMRC Cymru yn darparu cymorth technegol un-i-un i’ch helpu i strwythuro eich cynnyrch neu’ch syniad, i ddatblygu cynllun gweithredu cam wrth gam, ac i archwilio opsiynau o ran dylunio, gweithgynhyrchu a digideiddio.

Bydd Busnes Cymru yn cynnig cymorth masnacheiddio un-i-un i greu cynllun busnes cadarn, rhagfynegi rhagamcaniadau ariannol, a llywio’r llwybr i’r farchnad.

Byddwch yn gallu adnabod a datrys y rhwystrau presennol rhag arloesi yn gyflym. A byddwch yn gadael gyda chynllun gwaith clir, mynediad at adnoddau gwerthfawr, a’r hyder i lwyddo.

Brychdyn – 21/10/24  
Canolfan Arloesi Bae Baglan – 12/11/24 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.