BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ignite – y gystadleuaeth gyflwyno newydd ar gyfer darpar entrepreneuriaid cymdeithasol

person giving a business pitch

Mae Ignite yn ddigwyddiad cyflwyno unigryw sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer yr entrepreneur cymdeithasol ac mae’n helpu i raddio effaith mentrau cymdeithasol uchelgeisiol sy’n dod i’r amlwg o brifysgolion y DU gyda chyllid, mentora arbenigol a chysylltiadau.

I wneud cais i Ignite, mae angen i chi fod yn fyfyriwr neu wedi graddio’n ddiweddar o brifysgol yn y DU, bod â menter gymdeithasol bresennol rydych chi’n awyddus i’w thyfu ac uchelgais i ddatblygu busnes fydd yn cael effaith gynaliadwy.

Gallech ennill cyfran o £50,000 o’r Gronfa Sbarduno Effaith, gyda phrif wobr o £20,000.

19 Gorffennaf 2024 yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Home - Ignite (ignitecomp.co.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.