BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i leihau’r defnydd o blastigion untro yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion i wahardd eitemau plastig untro amrywiol ac am glywed eich barn ar sut gall Cymru fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch fyd-eang i fynd i’r afael â phroblem gwastraff plastig.

Mae’r plastigion untro y cynghorir arnynt yn cynnwys:

  • gwellt
  • troellwyr
  • ffyn cotwm
  • ffyn balŵn
  • platiau a chelfi
  • cynwysyddion bwyd a diod sydd wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ymestyn a;
  • chynhyrchion sydd wedi’u gwneud o blastig ocso-diraddiadwy

Mae’r camau hyn yn rhan o ymdrechion ehangach i ddatrys problem llygredd plastig, lleihau sbwriel a helpu i symud Cymru tuag at economi gylchol a Chymru ddiwastraff erbyn 2050.

Mae’r ymgynghoriad ar agor hyd 22 Hydref 2020 a gellir cyflwyno ymatebion ar wefan Llywodraeth Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.