BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llacio cyfyngiadau coronafeirws Cymru ymhellach

Bydd modd i lety gwyliau sydd â chyfleusterau a rennir, megis meysydd pebyll, ailagor o ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2020 ymlaen, ynghyd ag atyniadau tanddaearol. Dyma nodi carreg filltir bwysig gan y bydd atyniadau Cymru i ymwelwyr yn ailagor yn llawn.

Hefyd, bydd rheolau newydd sy’n ei gwneud yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, yn dod i rym ddydd Llun 27 Gorffennaf 2020.

Dyma’r cam diweddaraf yn y broses o ailagor sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu Cymru yn raddol. Yn ogystal â salonau harddwch, parlyrau ewinedd, siopau tatwio, sinemâu, arcedau difyrion, amgueddfeydd ac orielau, bydd y rheoliadau coronafeirws hefyd yn cael eu diwygio i ganiatáu i’r farchnad dai ailagor yn llawn.

Bydd yr adolygiad ffurfiol nesaf o’r rheoliadau yn cael ei gynnal erbyn 30 Gorffennaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys yr opsiynau ar gyfer agor tafarndai, bariau, caffis a bwytai dan do. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.