BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llacio mesurau gorfodi rheolau oriau gyrwyr dros dro: dosbarthu eitemau hanfodol i fanwerthwyr

Mewn ymateb i’r pwysau ar gadwyni cyflenwi lleol a chenedlaethol, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyflwyno mesur llacio brys cyfyngedig a dros dro ar orfodi rheolau oriau gyrwyr yr UE yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Bydd y llacio dros dro yn para tan 11:59pm ar 30 Rhagfyr 2020.

Mae’r llacio yn gymwys i unrhyw un sy’n gyrru o fewn Prydain Fawr o dan reolau oriau gyrwyr yr UE sy’n cludo:

  1. Bwy a nwyddau hanfodol eraill o borthladdoedd ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys gyrru llwythi cymysg gyda chynnwys sylweddol o fwydydd o’r fath. Mae nwyddau hanfodol yn cynnwys nwyddau categori 1. Lle mae angen cludo nwyddau eraill i alluogi symud nwyddau categori 1 allan o borthladdoedd, mae’r llacio hefyd yn gymwys.
  2. Bwyd a nwyddau hanfodol eraill i’w manwerthu, gan gynnwys llwythi cymysg gyda chynnwys sylweddol o nwyddau o’r fath.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.