BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llywodraeth Cymru i wahardd fêps tafladwy a chefnogi cynlluniau i godi oedran smygu

Disposable vapes

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps tafladwy ac yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU i godi'r oedran smygu a chyfyngu ar werthu fêps.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad pedair gwlad ‘Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc’ heddiw (dydd Llun 29 Ionawr 2024).

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Rhagfyr, a daeth 27,921 o ymatebion i law, 1,018 ohonynt o Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i weithredu gwaharddiad ar fêps tafladwy, gan gynnwys cynhyrchion nicotin a chynhyrchion heb nicotin, o ganlyniad i’r effaith sylweddol y maent yn ei chael ar yr amgylchedd.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Llywodraeth Cymru i wahardd fêps tafladwy a chefnogi cynlluniau i godi oedran smygu | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.