Bydd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd yng ngwanwyn 2025. Mae'r gwobrau yn cael eu cynnal gan Croeso Cymru i ddathlu'r gorau o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.
Bydd enillwyr Gwobrau Rhanbarthol 2024 yn mynd drwodd i'r Gwobrau Cenedlaethol (Cymru) ym mis Mawrth 2025 a bydd angen i chi wneud cais drwy eich gwobrau twristiaeth sir/rhanbarthol i gael eich ystyried.
Mae'r categorïau ar gyfer Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2025 fel a ganlyn:
- Gwesty Gorau
- Llety Gwely a Brecwast, Tafarn, Tŷ Llety Gorau
- Llety Hunanddarpar Gorau
- Safle Carafanio, Gwersylla a Glampio Gorau
- Yr Atyniad Gorau
- Gweithgaredd, Profiad neu Daith orau
- Categori Bro a Byd (Y rhai sy'n mynd y filltir ychwanegol ar gynaliadwyedd amgylcheddol)
- Gwobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol
- Y Lle Gorau i Fwyta
- Seren y Dyfodol
- Y Digwyddiad Gorau
- Busnes Cyfeillgar i Gŵn Gorau
I gofrestru ac i gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod yn dibynnu ar ble rydych wedi'ch lleoli.
De-orllewin Cymru:
- Sir Benfro – Sylwch y dylai'r rhai sydd wedi'u lleoli yn Sir Benfro ymgeisio drwy Wobrau Croeso Sir Benfro. Y dyddiad cau ar gyfer y Gwobrau Croeso yw’r 30 Gorffennaf 2024.
- Sir Gaerfyrddin – Ymgeisiwch drwy Wobrau Twristiaeth Dde Orllewin Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 18 Awst 2024.
- Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot – Cofrestrwch drwy Wobrau Twristiaeth Bae Abertawe. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner nos ar 18 Awst 2024.
De-ddwyrain Cymru:
- Gwobrau Twristiaeth De-ddwyrain Cymru – Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 18 Awst 2024.
Canolbarth Cymru:
- Gwobrau Twristiaeth Canolbarth Cymru – Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 18 Awst 2024
Gogledd Cymru:
- Gwobrau Go North Wales – Bydd gwobrau Go North Wales yn mynd yn fyw ar 1 Awst a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 7 Hydref 2024.