BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Manwerthwyr – newidiadau i’r ddyletswydd cadw pellter corfforol 2m

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod newidiadau i'r ddyletswydd cadw pellter corfforol 2m wedi dod i rym.

Mae gan y rheoliad 2m newydd goblygiadau ar gyfer mangreoedd, gan gynnwys siopau. Mae Llywodraeth Cymru  wedi ysgrifennu at fanwerthwyr yng Nghymru yn cydnabod y bod yna rhai achlysuron pan nad yw hi wastad yn bosibl i gynnal pellter o 2m ac yn nodi mesurau ychwanegol bydd angen i fusnesau eu rhoi ar waith er mwyn lleihau'r risg o goronafeirws.

Darllenwch y llythyr yma.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.