BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Masnachu gyda'r UE: Gwasanaethau Busnes Proffesiynol

Sicrhau cydnabyddiaeth yn y DU ar gyfer eich cymhwyster proffesiynol o’r UE: Gwybodaeth am sut i sicrhau cydnabyddiaeth yn y DU ar gyfer cymwysterau proffesiynol a enillwyd yn y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Gofynion cyfrifyddu ar gyfer cwmnïau o’r DU: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar sut mae cwmnïau sydd wedi'u hymgorffori yn y DU, neu sydd â rhiant-gwmni wedi'i ymgorffori yn y DU, yn gallu cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu ac adrodd y DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Gofynion cyfrifyddu ar gyfer sefydliadau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE): Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar sut mae cwmnïau a grwpiau'r AEE sydd â phresenoldeb yn y DU yn gallu cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu ac adrodd y DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Perchnogion busnes Gwasanaethau Cyfreithiol: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi er mwyn i chi gadarnhau beth sydd angen i chi ei wneud os ydych yn berchen ar fusnes gwasanaethau cyfreithiol yn y DU a'ch bod yn gyfreithiwr sydd â chymwysterau o'r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK

Gofynion archwilio ar gyfer archwilwyr a chwmnïau archwilio o'r DU sy'n gweithredu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE): Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar gyfer cwmnïau archwilio o'r DU, archwilwyr o'r DU, a'r rhai sydd â chymwysterau archwilio o'r DU sy'n gweithredu yn yr AEE. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Gofynion archwilio ar gyfer archwilwyr a chwmnïau archwilio o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n gweithredu yn y DU: Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar gyfer cwmnïau archwilio'r AEE, archwilwyr yr AEE, a'r rhai sydd â chymwysterau AEE sy'n gweithredu yn y DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Canllawiau ar gyfer Cyfreithwyr: Mae canllawiau ar gyfer cyfreithwyr o'r DU sy'n ymarfer yn yr UE, EEA-EFTA a'r Swistir wedi'u cyhoeddi. Ewch i wefan GOV.UK am ragor o wybodaeth. Mae canllawiau ar gyfer cyfreithwyr o'r UE, EEA-EFTA a'r Swistir yn y DU ar gael ar wefan GOV.UK.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a'r UE, ewch i Porth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.