BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Meithrin sgiliau a thalent i greu Cymru Greadigol

group of apprentices

Mae 17 o brosiectau arloesol o bob rhan o Gymru wedi cael hyd at £125,000 yr un trwy' Gronfa Sgiliau Creadigol, cyhoeddodd y Gweinidog Jack Sargeant.

Nod y Gronfa Sgiliau Creadigol, sydd bellach yn ei hail rownd, yw meithrin talentau trwy hyfforddi a meithrin sgiliau unigolion ar draws sawl sector creadigol, gan gynnwys sgrin, cerddoriaeth, technoleg ymgolli, animeiddio a gemau.

Agorwyd y rownd gyntaf yn 2022, gyda thros 27,000 o bobl yn elwa arni, a bron i 500 o gyrsiau hyfforddi a 435 o leoliadau gwella sgiliau'n cael eu darparu.

Dyma rai o'r rheini a gyhoeddwyd fydd yn cael arian:

  • Creative Sparc gan Barc Gwyddoniaeth Menai – prosiect traws-sector sy'n darparu pedwar llinyn gwahanol, gan gynnwys gweithio gyda 250 o blant ysgol gynradd i integreiddio'r diwydiannau creadigol o fewn y cwricwlwm a chyflogi graddedigion diweddar mewn sectorau creadigol allweddol penodol yng ngogledd Cymru.
  • Animeiddio gan Media Academy Cymru – datblygu dau gwrs BTEC newydd sy'n canolbwyntio ar animeiddio 2D, 3D a stop-symudiad.
  • 'A new game plan for Wales' gan Esports Wales – Mae Esports Wales yn bwriadu estyn ei raglen academi i gwmpasu Cymru gyfan a chynnig sesiynau blasu, rhwydweithio a datblygu gyrfa.
  • Cerrig camu at ôl-gynhyrchu, gan Gorilla Academy - rhaglen i ddarparu cyrsiau ôl-gynhyrchu yn y Gymraeg, gan helpu i fynd i'r afael â'r prinder cydnabyddedig mewn sgiliau golygu Cymraeg.
  • Anthem Gateway, gan Anthem Music Fund Wales - gwefan ar gyfer cerddorion a phobl greadigol ifanc sy'n chwilio am lwybr i'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Bydd nawr yn cynyddu ac yn cynhyrchu deunydd rheolaidd deniadol i gyrraedd mwy o bobl ac i estyn ei gynulleidfa.

Derbyniodd Hijinx, un o gwmnïau theatr cynhwysol mwyaf blaenllaw Ewrop, gefnogaeth yn rownd flaenorol y gronfa i ddarparu sesiynau ReFocus (hyfforddiant i bobl ag anableddau dysgu i'w cynnwys yn y diwydiant sgrin). Mae wedi llwyddo i sicrhau nawdd yn y rownd ddiweddaraf hon hefyd.

Fel rhan o'r gwaith, maent wedi sefydlu sesiynau hyfforddi i Alluogwyr Creadigol, sef hyfforddi pobl i helpu a grymuso artistiaid byddar, dall, anabl a/neu niwroamrywiol i fod yn greadigol ar lefel broffesiynol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Meithrin sgiliau a thalent i greu Cymru Greadigol | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.