BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Mis Hanes LHDTC+ 2024

multicoloured heart

Mae Mis Hanes LHDTC+ i bawb; p’un a ydych chi’n gweithio ym myd addysg, mewn amgueddfa, llyfrgell neu oriel gelf, busnes, gwasanaeth, neu’n aelod o rwydwaith/grŵp rhwydweithio, neu’n unigolyn.

Caiff ei ddathlu bob mis Chwefror ar draws y DU.

Bob blwyddyn, mae Schools OUT yn gosod thema wahanol ar gyfer Mis Hanes LHDTC+ ac mae’n darparu adnoddau am ddim i leoliadau addysg, busnesau, gwasanaethau a sefydliadau i’w helpu i ddathlu ac ‘Arferoli’ bywydau LHDTC+ yn eu holl amrywiaeth.

Thema 2024 yw Meddygaeth – #UnderTheScope ac mae’n dathlu cyfraniad pobl LHDTC+ at faes Meddygaeth a Gofal Iechyd, yn hanesyddol a heddiw.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: LGBT+ History Month 2024 - LGBT+ History Month (lgbtplushistorymonth.co.uk)

Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.