BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

NatWest yn gwahodd Entrepreneuriaid Cymru i Sesiwn Ddarganfod Accelerator Caerdydd

Cardiff Accelerator discovery session

Mae NatWest yn estyn gwahoddiad arbennig i entrepreneuriaid uchelgeisiol yng Nghymru ddod i Sesiwn Ddarganfod yn Accelerator Entrepreneuriaid Caerdydd.

Mae’r sesiwn hon yn cynnig cipolwg i raglen Accelerator Entrepreneuriaid NatWest, a ariennir yn llawn ac a grëwyd i gynorthwyo busnesau i newid graddfa a thyfu. Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael anogaeth un i un gan Reolwyr Acceleration pwrpasol, gallant gael at fannau cydweithio modern, cymryd rhan mewn digwyddiadau a chael cyfle i ymuno â chymuned o gymheiriaid, arbenigwyr, mentoriaid a chydweithwyr yn NatWest. Mae’r rhaglen chwe mis, sy’n dechrau ganol mis Mawrth, yn rhoi profiadau a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr.

Mae ceisiadau ar gyfer carfan Mawrth 2024 ar agor tan 16 Chwefror 2024.

Gall unigolion â diddordeb fynd i ddigwyddiadau Darganfod, yn cynnwys cipolygon gan aelodau presennol y garfan a throsolwg o’r rhaglen.

I sicrhau lle, archebwch docyn am ddim ar Evenbrite.

Nid oes angen i chi fod yn Gwsmer gyda NatWest i wneud cais am eich rhaglen gyntaf. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.