BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau dros dro i ffioedd y Swyddfa Eiddo Deallusol

Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn cyflwyno’r newidiadau dros dro canlynol i ffioedd o 30 Gorffennaf 2020 tan 31 Mawrth 2021 mewn perthynas â phatentau, nodau masnach a dyluniadau cofrestredig:

  • bydd ffioedd am estyniadau amser yn sero
  • ni chodir tâl ychwanegol am dalu ffi ymgeisio am batent ar ôl dyddiad cyflwyno’r cais
  • bydd ffioedd i wneud cais am ailsefydlu ac adfer yn sero
  • o ran patentau a dyluniadau, ni chodir tâl ychwanegol am dalu ffi adnewyddu yn hwyr
  • o ran nodau masnach, codir tâl ychwanegol o £1 am dalu ffi adnewyddu yn hwyr

Am ragor o wybodaeth ewch i  wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.