BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws – gweminar

O 1 Awst 2020 bydd newidiadau yn effeithio ar y grant y gall cyflogwyr ei hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws.

Bydd gofyn i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn ar gyfer gweithwyr sydd ar ffyrlo.

Bydd y gweminar ‘Ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a ffyrlo hyblyg’ yn cynnig:

  • Trosolwg o’r cynllun, gan gynnwys ffyrlo hyblyg
  • Enghreifftiau o sut i gyfrifo’r swm y gallwch chi ei hawlio
  • Gwybodaeth am newidiadau a fydd yn digwydd ym mis Medi a mis Hydref

Dewiswch ddyddiad ac amser yma, gallwch ofyn cwestiynau yn ystod gweminarau byw drwy ddefnyddio’r bocs testun ar y sgrin.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.