BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Newyddion diweddaraf gan Dŷ'r Cwmnïau

A yw ymgorffori'n iawn i chi?

Os ydych yn ystyried ymgorffori neu wedi gwneud hynny'n ddiweddar, gall Tŷ'r Cwmnïau eich cyfeirio at offer, gwasanaethau a phartneriaid i helpu ar eich taith fusnes. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Set up a limited company: step by step - GOV.UK (www.gov.uk)

Marciau diogelwch cynnyrch newydd

Os yw eich cwmni'n gosod nwyddau ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, bydd angen i chi ddilyn rheolau marcio cynnyrch newydd o 1 Ionawr 2023. Mae llywodraeth y DU bellach wedi ei gwneud yn haws defnyddio'r marc diogelwch cynnyrch newydd, marc Asesedig Cydymffurfiaeth y DU (UKCA). Gall busnesau gyrchu’r canllaw cyfan ar GOV.UK

Y diweddaraf am y Gofrestr Endidau Tramor

Mae Tŷ'r cwmnïau wedi cyhoeddi tair neges flog i’ch diweddaru am y Gofrestr Endidau Tramor. Mae'r gofrestr newydd yn cael ei chreu o dan yr Economic Crime (Transparency and Enforcement) Act. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i endidau tramor sy'n berchen ar dir neu eiddo yn y DU ddatgan eu perchnogion neu swyddogion rheoli llesiannol. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.