BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Oedi cyflwyno’r tâl rifersiwn domestig ar gyfer gwasanaethau adeiladu hyd at 1 Mawrth 2021

Bydd cyflwyno’r tâl rifersiwn domestig ar gyfer gwasanaethau adeiladu yn cael ei ohirio am gyfnod o 5 mis o 1 Hydref 2020 tan 1 Mawrth 2021 oherwydd effaith y pandemig coronafeirws ar y sector adeiladu.

Hefyd, bydd diwygiad i’r ddeddfwriaeth wreiddiol, a osodwyd ym mis Ebrill 2020, i’w gwneud yn ofyniad i fusnesau gael eu heithrio rhag y tâl rifersiwn gan eu bod yn ddefnyddwyr neu’n gyflenwyr cyswllt, a bydd rhaid iddynt hysbysu eu hisgontractwyr yn ysgrifenedig eu bod yn ddefnyddwyr neu’n gyflenwyr cyswllt.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.