BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Papurau punnoedd Brenin Charles III yn dechrau cylchredeg ar 5 Mehefin 2024

Polymer bank notes

Bydd papurau punnoedd gyda darlun o Frenin Charles III yn cael eu cyflwyno am y tro cyntaf ar 5 Mehefin 2024 (King Charles III will be issued for the first time on 5 June 2024). Bydd y darlun o’r Brenin yn ymddangos ar ddyluniadau presennol o bob un o’r pedwar papur punt (£5, £10, £20 a £50), ac ni fydd unrhyw newidiadau i’r dyluniadau presennol.

Bydd papurau punnoedd polymer â darlun o’i Mawrhydi, y ddiweddar Frenhines Elizabeth II, yn parhau i fod yn dendr cyfreithiol a byddant yn cyd-gylchredeg ochr yn ochr â phapurau banc Brenin Charles III. Bydd y papurau punnoedd newydd dim ond yn cael eu hargraffu i ddisodli’r rhai treuliedig, ac i fodloni unrhyw gynnydd cyffredinol yn y galw am bapurau punnoedd.

Gellir gwirio’r papurau punnoedd newydd gan ddefnyddio’r un nodweddion diogelwch â phapurau banc presennol Ei Mawrhydi Elizabeth II. Gellir cael mwy o wybodaeth am ddyluniadau a nodweddion diogelwch penodol y rhain trwy’r dolenni canlynol:

Bydd aelodau o’r cyhoedd hefyd yn gallu cyfnewid gwerth cyfyngedig o bapurau banc cyfres presennol neu hen bapurau banc cyfres am bapurau banc newydd Brenin Charles III, trwy Fanc Lloegr, am gyfnod byr o ddyddiad cyhoeddi 5 Mehefin 2024.  Bydd mwy o fanylion yn cael eu darparu yn agosach at yr amser: Exchanging old banknotes | Bank of England 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.