BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Paratowch ar gyfer Nadolig 2022 – y dyddiadau postio diweddaraf a argymhellir

Peidiwch â chael eich dal gan frys gwyllt yr ŵyl – postiwch eich llythyrau a’ch parseli mewn da bryd.

Mae cyfyngiadau Covid parhaus, llai o allu cludiant o ran awyrennau a lorïau, cynnydd yn y galw ac amodau tywydd y gaeaf i gyd yn effeithio ar gludiant a darpariaeth leol ledled y byd.

Caniatewch ddigon o amser trwy bostio eitemau ac anrhegion Nadolig yn gynnar, yn enwedig ar gyfer danfoniadau rhyngwladol: 

  • Dydd Gwener 16 Rhagfyr 2022 – Swmp-bost Economi'r Post Brenhinol
  • Dydd Llun 19 Rhagfyr 2022 - 2il Ddosbarth, 2il Ddosbarth y llofnodir amdano, Royal Mail 48®
  • Dydd Mercher 21 Rhagfyr 2022 – Dosbarth 1af, Dosbarth 1af y llofnodir amdano, Royal Mail 24®, Royal Mail Tracked 48®**
  • Dydd Iau 22 Rhagfyr 2022 – Special Delivery Guaranteed® Royal Mail Tracked 24®**
  • Dydd Gwener 23 Rhagfyr 2022 – Special Delivery Guaranteed® with Saturday Guarantee

** Nid yw Royal Mail Tracked 24® na Royal Mail Tracked 48® ar gael yng nghanghennau’r Post Brenhinol®

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Post Brenhinol.
 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.