BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Perthyn: Grantiau bach ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith yn agor

Community grant image

Ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, wedi annog grwpiau cymunedol i wneud cais am arian oddi wrth Gynllun Grantiau Bach prosiect Perthyn i helpu'r Gymraeg ffynnu.

Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant bach i'w helpu i sefydlu menter gymdeithasol newydd, a/neu brosiectau tai a arweinir gan y gymuned.

Nod y grant yw creu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy, a chefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â nifer uchel o ail gartrefi.

Dyma'r bedwaredd rownd o'r grant, a hyd yma mae 47 o brosiectau cymunedol wedi sicrhau cyllid.

Gweinyddir y cynllun grant gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, a ffurflen gais cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cwmpas.

Ar Ddiwrnod Shwmae Su'mae mae pobl yn cael eu hannog i ddechrau eu sgyrsiau yn Gymraeg. Gwahoddir sefydliadau a busnesau i gymryd rhan drwy gynnal digwyddiadau a hyrwyddo'r ffaith bod eu staff yn gallu siarad Cymraeg.

Cofiwch dagio ni yn eich postiadau am ddigwyddiadau 2024, er mwyn i ni helpu hysbysebu a hyrwyddo! @shwmaesumae24#shwmaesumae24

Pecyn Hyrwyddo 2024: 2024-Pecyn-Hyrwyddo-Cyflawn (shwmae.cymru)

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Beth yw Diwrnod Shwmae Su’mae?

Gall defnyddio'r Gymraeg gael effaith fawr ar dy fusnes. Ac mae Helo Blod yma i roi help llaw yn rhad ac am ddim: Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.