BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Postcode Community Trust

group of people, community

Mae Postcode Community Trust yn cefnogi elusennau llai ac achosion da yng Nghymru i wneud gwahaniaeth i’w cymuned er budd pobl a’r blaned.

Gall elusennau wneud cais am hyd at £25,000, ac oherwydd nad oes cyfyngiadau arno, nid oes angen i’r cyllid fod ynghlwm â phrosiect neu weithgaredd penodol.

Dyma themâu’r cyllid:

  • Galluogi pobl i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
  • Galluogi pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau
  • Atal neu leihau effaith tlodi
  • Cefnogi grwpiau ar y cyrion a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb
  • Gwella bioamrywiaeth ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd
  • Gwella mannau gwyrdd a chynyddu mynediad i’r awyr agored
  • Darparu cymorth i wella iechyd meddwl

Dyma ddyddiadau’r cylchoedd cyllid ar gyfer 2024:

  • Cylch 1: 9am 23 Chwefror tan 12 canol dydd ar 1 Mawrth.
  • Cylch 2: 9am 27 Mai tan 12 canol dydd ar 3 Mehefin.
  • Cylch 3: 9am 26 Awst tan 12 canol dydd ar 2 Medi.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Apply for a grant | Postcode Community Trust


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.