BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Procurex Cymru 2020: 19 Hydref 2020

Mae Procurex Cymru yn digwydd ar-lein eleni ar ddydd Llun 19 Hydref.

Bydd pob agwedd ar yr arddangosfa yn cael ei hefelychu'n ddigidol, trwy arddangosfa rithwir, parthau academi sgiliau caffael, prif siaradwyr a chyfleoedd rhwydweithio i weithwyr caffael proffesiynol a chyflenwyr.

Cynhelir gweminar cyn y digwyddiad ar ddydd Llun 5 Hydref am 2pm, i roi golwg gyntaf ar yr hyn i'w ddisgwyl gan Procurex Cymru. I lawer ohonoch, gall digwyddiadau rhithwir fod yn brofiad newydd, a bydd y gweminar hwn yn eich helpu i ddeall pa mor hygyrch a hawdd fydd y digwyddiad digidol i'w lywio.

Cofrestrwch ar gyfer y gweminar cyn y digwyddiad yma.

Mae Procurex Wales 2020 yn eich galluogi i ymuno â'r digwyddiad o unrhyw leoliad drwy eich bwrdd gwaith, eich ffôn symudol neu ddyfais arall. Yn ogystal, os byddwch yn colli unrhyw beth, gallwch ddal i fyny'n ddiweddarach gan ddefnyddio'r gwasanaeth ar alw, fydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl y digwyddiad.

Cofrestrwch i fynychu digwyddiad Procurex Cymru 2020 yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.