BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Profi, Olrhain, Diogelu: canllawiau i gyflogwyr

Profi, Olrhain, Diogelu yw cynllun Llywodraeth Cymru i brofi ac olrhain cysylltiadau a fydd yn helpu dinasyddion Cymru i ddychwelyd i'w bywydau bob dydd yn raddol ac yn ddiogel.

Bydd Profi, Olrhain, Diogelu yn cael ei gyflawni trwy wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru sy'n cynnwys nifer o bartneriaid sector cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i reoli lledaeniad y feirws.

Mae'r canllawiau hyn yn egluro sut y gall cyflogwyr yng Nghymru chwarae eu rhan i helpu i wireddu strategaeth Cymru ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn arafu lledaeniad y feirws, diogelu ein systemau iechyd a gofal ac achub bywydau. Mae hyn yn cynnwys eu cyfrifoldebau i weithwyr a chontractwyr sy'n gysylltiedig â gweithredu eu busnes ac mae'n cynnwys gwybodaeth berthnasol ar gyfer yr hunangyflogedig.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.