BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pythefnos Masnach Deg 2023

Pythefnos Masnach Deg 2023: 27 Chwefror– 12 Mawrth, thema eleni yw BWYD!

Mae hyn yn meddwl gallwch ffocysu ar unrhyw ran o fwyd a Masnach Deg i ddathlu Pythefnos Masnach Deg 2023. Gall hwn fod, cynhyrchiant bwyd a newid hinsawdd, caffael Masnach Deg neu ddiogelwch bwyd i enwi ond ychydig.

Mae bwyd wrth wraidd Masnach Deg ac yn croestorri gyda newid hinsawdd, rhyw, bywoliaethau a phob agwedd arall o Fasnach Deg. Edrychwch yma Ble i brynu - Fair Trade Wales (masnachdeg.cymru) am rywle i brynnu bwyd Masnach Deg.

Bob blwyddyn mae Pythefnos Masnach Deg yn rhoi’r cyfle i bobl ledled y DU dathlu cyflawniadau Masnach Deg a dysgu mwy am y gwahaniaeth y mae Masnach Deg yn ei wneud.

Cefnogir Pythefnos Masnach Deg Cymru gan Lywodraeth Cymru a Hub Cymru Africa.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Pythefnos Masnach Deg 2023 - Fair Trade Wales

Cysylltiadau Cymunedol - Clwb Swper Masnach Deg

Cyhelir y digwyddiad ar 10 Mawrth, 6:30pm i 9pm yn Oasis Cardiff, 69B Splott Road, Caerdydd, CF24 2BW. Ymunwch am noson o fwyd a straeon Masnach Deg blasus wrth i ni ddysgu am y bobl sy’n cynhyrchu’r bwyd a’r diod rydyn ni’n eu bwyta a’u hyfed bob dydd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Community Connections: A Fairtrade Supper Club Tickets, Fri 10 Mar 2023 at 18:30 | Eventbrite

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.