BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Ailadeiladu (Reconstruct)

Mae Acorn by Synergie wedi sefydlu’r Rhaglen Ailadeiladu, sef ffordd syml i'ch busnes adeiladu addo i gefnogi pobl sydd ag euogfarnau i mewn i gyflogaeth.

Mewn partneriaeth â'r HMPPS (Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi), mae Acorn Recruitment Ltd yn gweithio gyda phobl sydd ag euogfarnau trwy dri Carchar yng Nghymru a CEF Bryste i gynnig y potensial i'r rheini sy'n agosáu at ddiwedd eu dedfryd sicrhau cyflogaeth ystyrlon yn y diwydiant adeiladu.

Pe byddai eich busnes yn dewis bod yn rhan o'r rhwydwaith hwn, byddai'n cynnwys y buddion hyn:

  • Mae'n rhad ac am ddim i ymuno
  • Byddai’r busnes yn ymddangos ar dudalen we rhwydwaith bwrpasol sy’n cefnogi pobl sydd ag euogfarnau i mewn i gyflogaeth
  • Hyrwyddo eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Yn dangos eich bod yn cefnogi gwerth cymdeithasol ar ffurf gwella symudedd cymdeithasol
  • Tystiolaeth wych i'w chynnwys mewn tendrau ac astudiaethau achos
  • Ffordd hawdd i chi wneud rhywbeth sy'n rhoi llawer o foddhad ac yn hynod werth chweil heb orfod dyrannu llawer o adnoddau iddo
  • Ffordd wych o adnabod talent newydd i gynorthwyo â phrinder sgiliau
  • Cysylltiadau Cyhoeddus cadarnhaol i'ch busnes

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Reconstruct (acornpeople.com)

Darganfyddwch sut y gall bod yn Fusnes Cyfrifol fod o fudd i'r bobl a'r lleoedd o'ch cwmpas tra'n cael effaith gadarnhaol ar eich busnes. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.