BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen cyflymu Trafnidiaeth Cymru

Ydych chi am gael y cyfle i sicrhau contract gyda Trenau Trafnidiaeth Cymru (TTrC)?

Ydych chi am gael eich cynnyrch ar y farchnad, neu ar farchnad ehangach?

Os ydych chi wedi ateb Ydym i’r cwestiynau hyn, yna beth am wneud cais am y rhaglen cyflymu arloesi am ddim a allai gynnig cyfle i chi:

  • sicrhau contract gwaith gyda TTrC
  • sicrhau cyllid i gefnogi datblygiad eich datrysiad
  • datblygu ac ehangu eich busnes
  • ennill cyfran o £15,000

Yn sgil COVID-19, bydd y rhaglen yn cael ei chynnal o bell ac yn gadael i chi gymryd rhan yn y rhaglen 11 wythnos gyfan o’ch cartref, neu o’ch gofod swyddfa.

Bydd yr holl ddeunydd gweithdy a’r deunyddiau dysgu ar gael ar-lein i chi eu defnyddio, eu gwylio a chymryd rhan ynddynt yn eich amser eich hun.

Bydd y cynnwys yn cael ei ddarparu drwy gyfres o fideos, cyflwyniadau a chanllawiau ar-lein. Bydd gweithdai cymryd rhan a sesiynau un-i-un yn cael eu darparu drwy fideo-gynadledda a sgyrsiau byw.

Bydd y rhaglen dysgu o bell yn cael ei lansio ar 29 Gorffennaf 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LabTrC


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.