BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Mentrau Bach a Grymus 2024

small business owner looking at a digital device

Ymunwch â’r rhaglen am ddim i helpu microfusnesau ac unig fasnachwyr i ffynnu!

Mae Busnesau Bach Prydain yn cyflwyno’r rhaglen Bach a Grymus i helpu i dyfu busnesau bach gydag arweiniad a mentora arbenigol yn dechrau ar 15 Ebrill 2024.

Bydd y rhaglen chwe wythnos hon sy’n roi hwb i unig fasnachwyr a microfusnesau yn gorffen gyda chynllun twf i gefnogi’r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes. Fe’i cyflwynir yn gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, gyda dysgu hyblyg sy’n galluogi cyfleoedd i bawb.

Rhoddir dyddiadau cwrs 2024 isod, a chynhelir yr holl sesiynau o 10am tan 12pm:

  • Modiwl 1: 15 Ebrill 
  • Modiwl 2: 22 Ebrill 
  • Modiwl 3: 29 Ebrill
  • Modiwl 4: 7 Mai
  • Modiwl 5: 13 Mai 
  • Modiwl 6: 20 Mai 

I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru, dewiswch y ddolen ganlynol: Small Business Britain | Champion. Inspire. Accelerate


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.