BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Newydd yn Rhoi Cyfle i Fenywod sy’n Entrepreneuriaid Gyflwyno Syniadau Busnes ar gyfer Cyllid

New Programme Gives Women Entrepreneurs Opportunity to Present Business Ideas for Funding

Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fenywod sy’n entrepreneuriaid ac arweinwyr gyflwyno eu syniadau busnes i fuddsoddwyr. Gall cwmnïau sydd â sylfaenwyr benywaidd neu fenywod mewn uwch swyddi wneud cais am gyllid.

Mae'r rhaglen yn para am 12 mis ac yn cynnwys pedwar digwyddiad cyflwyno syniadau.  Cynhelir y digwyddiad cyflwyno syniadau cyntaf yng Nghaerdydd ddydd Iau 16 Mai 2024 yn 2 Sgwâr Canolog, Caerdydd rhwng 4:30pm ac 8pm.

Bydd hyd at bedwar cwmni yn cyflwyno eu syniadau ym mhob digwyddiad. Nod y rhaglen hon yw cefnogi menywod yng nghymuned buddsoddiad cynnar Cymru ac mae’n cael ei chefnogi gan Fanc Busnes Prydain a Banc Datblygu Cymru.

 Mae’r ceisiadau bellach ar agor!

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan  Events - Women Angels of Wales.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.