BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Parodrwydd i Fuddsoddi ar gyfer Sefydlwyr sy’n Fenywod

Female Business owner using a digital device

Rhaglen 6 mis sy’n anelu at roi’r sgiliau, mentoriaeth a chyfleoedd rhwydweithio i sefydlwyr technoleg benywaidd yng Nghymru allu codi arian yn llwyddiannus yw’r rhaglen Parodrwydd i Fuddsoddi ar gyfer Sefydlwyr sy’n Fenywod.  Bydd pynciau hanfodol fel cyllid strategol, cyflwyno syniadau, strategaeth ‘mynd i'r farchnad’, rheoli buddsoddwyr a gwneud cais ar gyfer y Cynllun Buddsoddi Cychwynnol mewn Mentrau yn cael sylw yn y rhaglen.

Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai hanner diwrnod, yn cysylltu’n fisol â chymheiriaid, ac yn ymuno â chyfarfodydd bob yn ail fis.

Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion canlynol:

  • Rhaid i sefydlwyr/cyd-sefydlwyr fod wedi'u lleoli yng Nghymru.
  • Rhaid i sefydlwyr/cyd-sefydlwyr fod â chynnyrch sylfaenol hyfyw (MVP).
  • Rhaid i sefydlwyr/cyd-sefydlwyr fod yn barod neu'n awyddus i geisio buddsoddiad yn y 18 mis nesaf.
  • Rhaid i sefydlwyr/cyd-sefydlwyr fod yn gweithredu o fewn y sectorau arloesi a thechnoleg allweddol.

Mae'r rhaglen yn dechrau ar 23 Mai 2024.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Female Founder Investor Readiness (tramshedtech.co.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.