BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Tegwch ar sail Hil

smiling male wearing glasses

Mae'r Rhaglen Tegwch ar sail Hil wedi'i hanelu at elusennau cofrestredig a Chwmnïau Buddiannau Cymunedol sy'n cael eu harwain gan bobl sy'n profi annhegwch economaidd oherwydd eu hil neu eu hethnigrwydd ac sy’n gweithio gyda nhw. 

Mae’r rhaglen hon yn cyfuno cyllid anghyfyngedig o £75,000 dros dair blynedd a bydd yn dyfarnu grantiau i 42 o sefydliadau bach yng Nghymru a Lloegr sydd ag incwm blynyddol rhwng £25,000 a £500,000.

Bydd gweminar byw ar 24 Ebrill 2024 i drafod y meini prawf cymhwysedd, y meini prawf ar gyfer y rhaglen, llunio rhestr fer a blaenoriaethu ar gyfer y rhaglen hon ac i ateb unrhyw gwestiynau. Dewiswch y ddolen ganlynol i archebu eich lle: Gweminar a sesiwn holi ac ateb y rhaglen tegwch ar sail hil (lloydsbankfoundation.org.uk)

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 30 Mai 2024 am 5pm. 

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen: Gwneud cais am gyllid o dan y rhaglen tegwch ar sail hil (lloydsbankfoundation.org.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.