BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Upscale

Female entrepreneur

Rhaglen dri mis, eang ei heffaith, ar gyfer sefydlwyr busnes uchelgeisiol a'u timau arwain sydd wrthi’n sefydlu eu busnes newydd yw Upscale. Rhoddir pwyslais cryf ar baratoi ar gyfer cyllid Cyfres B yn yr amgylchedd ariannu heriol sydd ohoni.

Mae'r rhaglen yn cynnwys gweithdai sy’n cael eu harwain gan arbenigwyr, cefnogaeth gan gymheiriaid, a mynediad at rwydwaith helaeth o entrepreneuriaid llwyddiannus ac arweinwyr yn y diwydiant. Mae Upscale yn sicrhau system gymorth gynhwysfawr ar gyfer ehangu cyflym a thwf cynaliadwy.

Mae’r rhaglen Upscale bellach yn derbyn ceisiadau a’r dyddiad cau yw 9 Medi 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Upscale | Tech Nation


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.