Rhaglen ddeuddeg mis yw Sbardun Twf Shott (Shott Scale Up Accelerator) sy'n datblygu, yn meithrin ac yn cryfhau galluoedd arwain uwch wneuthurwyr penderfyniadau mewn BBaChau sy’n ymwneud â pheirianneg a thechnoleg uchel eu twf er mwyn codi eu busnes i'r lefel nesaf.
Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn cael y cyfle i gael arweiniad personol gan hyfforddwr arweinyddiaeth a mentor a ddewiswyd o blith rhwydwaith o beirianwyr gorau sector ddiwydiannol y DU. Byddwch hefyd yn cael £10,000 i'w wario ar yr hyfforddiant arweinyddiaeth gorau a gynigir unrhyw le yn y byd, a hyn oll â’r bwriad i roi'r adnoddau i chi dyfu eich busnes newydd.
Ar gyfer pwy mae'r rhaglen?
Mae'r rhaglen yn chwilio am:
- Uwch arweinwyr (e.e., Prif Swyddog Gweithredol, Prif Swyddog Technoleg, Prif Swyddog Cynnyrch).
- Mae croeso i beirianwyr a rhai nad ydynt yn beirianwyr sy'n gweithio mewn BBaChau sy’n ymwneud â pheirianneg a thechnoleg ac sydd wedi'u lleoli yn y DU wneud cais.
- Mewn cwmni uchel ei dwf sydd wedi codi o leiaf £1 miliwn mewn buddsoddiad ecwiti, neu drosiant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf (neu gyfuniad o’r ddau). Os ydynt yn gweithredu ym maes Technoleg Feddygol, bydd grantiau hefyd yn cyfrif tuag at gyfanswm y buddsoddiad a godwyd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 4pm ar 28 Mai 2024. Gellir dod o hyd i’r meini prawf cymhwysedd yma: Shott Scale Up Accelerator - Eligibility (raeng.org.uk)
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Shott Scale Up Accelerator - Programme (raeng.org.uk)