BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Siarter Menywod ym Maes Cyllid

Ymrwymiad yw’r Siarter gan Drysorlys EM a chwmnïau sydd wedi’i lofnodi i weithio gyda’i gilydd i greu diwydiant mwy cytbwys a theg. Mae cwmnïau sy'n ymrwymo i’r Siarter yn addunedu y byddan nhw’n dod yn un o’r busnesau gorau yn y sector.

Mae’r Siarter:

  • yn rhwymo cwmnïau i gefnogi menywod i symud ymlaen i swyddi uwch yn y sector gwasanaethau ariannol drwy ganolbwyntio ar y ffrwd sy’n bwydo’r haen weithredol a lefel yr haenau canol
  • yn cydnabod amrywiaeth y sector a’r ffaith y bydd cwmnïau’n cychwyn o fannau gwahanol - dylai pob cwmni osod ei dargedau ei hun felly a rhoi'r strategaeth iawn i’w sefydliad ef ar waith
  • yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau adrodd yn gyhoeddus ar eu cynnydd o ran cyrraedd y targedau mewnol hyn i hybu’r tryloywder a’r atebolrwydd sy’n ofynnol i yrru newid

Mae Trysorlys EM yn croesawu diddordeb yn y Siarter Menywod ym Maes Cyllid gan gwmnïau o bob math a maint.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.