BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Taliad Tywydd Oer

Young man in warm clothes and with cup of tea at home. Concept of heating season

Efallai byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu Cymorth ar gyfer Llog Morgais.

Byddwch yn cael taliad os yw’r tymheredd yn eich ardal chi, ar gyfartaledd, wedi’i gofnodi fel, neu y rhagwelir i fod, yn sero gradd celsius neu’n llai am 7 diwrnod yn olynol.

Byddwch yn cael taliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth.

Mae’r cynllun Taliad Tywydd Oer yn rhedeg rhwng 1 Tachwedd 2023 a 31 Mawrth 2024. Gwiriwch os allwch gael taliad yn eich ardal chi.

Mae Taliadau Tywydd Oer yn wahanol i Daliadau Tanwydd Gaeaf.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Taliad Tywydd Oer : Trosolwg - GOV.UK 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.